Gabion

Gabion i reoli llif afon ac erydiad y dorlan

Mae'r gabion (defnyddir caergawell yn y Gymraeg hefyd) yn ddyfais a ddefnyddir mewn peirianneg a pensaernïaeth, er mwyn codi mudiau neu rhwstrau, fel arfer yn sydyn ac yn rhad. Ceir cawell o wifren sy'n cael ei lenwi â charreg, contric, pridd, tywod neu deunydd arall. Er mwyn eu hadeiladu, caiff y ddaear ei lefelu, gosodir y gawell yn ei le a'i lenwi â deunydd. Oherwydd ei faint, mae angen peiriannau trwm fel arfer, fel cloddwyr, i'w gosod a'u llenwi. Gan nad oes angen yr un sgil nac amser i adeiladu wal o gabionnau, maennt yn opsiwn rhad, syml ac hyblyg ar gyfer codi mur neu rwystr.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy